Logotipo da YouVersion
Ícone de Pesquisa

Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971

Y Ffordd Newydd

Yn y 1960au bu galwadau gan ieuenctid ac ysgolion yng Nghymru am gyfieithiad bywiog, modern o'r Testament Newydd. Roedd pobl yn ymwybodol o lawer o gyfieithiadau deniadol yn y Saesneg ac roedd hiraeth am rywbeth tebyg yn y Gymraeg. Felly comisiynodd Cymdeithas y Beibl gyfieithiad ffres o'r Testament Newydd o'r Roeg i Gymraeg llafar, yn arddull y Good News Bible Saesneg.

Cyhoeddwyd Efengyl Ioan ym 1969 fel Y Ffordd, a'i ailargraffu ym 1970. Ar y clawr blaen roedd delwedd o Bethania, Ceredigion. Paratowyd y cyfieithiad hwn gan Ieuan Davies, gweinidog gyda'r Annibynwyr.

Paratowyd Efengyl Mathew gan T. Glyn Thomas (a fu farw ym 1973), gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Wrecsam. Paratowyd Efengyl Marc gan J. S. Williams, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac Efengyl Luc gan Dafydd Owen, gweinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yna cyhoeddwyd y pedair Efengyl gyda'i gilydd ym 1971 dan y teitl Y Ffordd Newydd, a chafwyd ailargraffiad ym 1972. Roedd hwn yn cynnwys argraffiad diwygiedig o Efengyl Ioan. Ar y clawr blaen roedd delwedd o Fethlehem, Sir Gaerfyrddin. Roedd y cyfieithiad yn cynnwys rhai o luniau Annie Vallatton, ddefnyddiwyd cyn hynny yn y Good News Bible Saesneg.

Y cynllun gwreiddiol oedd cyhoeddi'r Testament Newydd yn gyfan yn yr un arddull. Ond yna rhoddwyd y gorau i'r bwriad hwn gan fod eglwysi Cymru wedi ymrwymo i baratoi cyfieithiad newydd o'r Beibl cyfan. Cafodd Testament Newydd y cyfieithiad hwnnw, sef y Beibl Cymraeg Newydd (BCN), ei lansio yn Eglwys Gadeiriol Bangor ar Ddydd Gwyl Dewi 1975.

Fersiwn Digidol

Cafodd yr eitemau hyn eu digideiddio yn 2019, o lyfrynnau gwreiddiol sydd yng nghasgliad Cymdeithas y Beibl yn Llyfrgell Caergrawnt. Rhan o brosiect Digideiddio Ysgrythurau Cymraeg Cymdeithas y Beibl.

---

English:

Y Ffordd Newydd

In the 1960s there were calls from youth and schools in Wales for a lively, modern New Testament translation. People were aware of a lot of attractive English translations and there was a longing for something similar in Welsh. Therefore the Bible Society commissioned a fresh translation of the New Testament from Greek into Popular Welsh, in the style of the English language Good News Bible.

The Gospel of John was issued in 1969 as Y Ffordd  (The Way) and reprinted in 1970. On the front cover it included an image of Bethania, Ceredigion. This translation was prepared by Ieuan Davies, a Congregational minister.

The Gospel of Matthew was prepared by T. Glyn Thomas (who died in 1973) a Congregational minister in Wrexham. The Gospel of Mark was prepared by J. S. Williams, a Baptist minister. The Gospel of Luke was prepared by Dafydd Owen, a Presbyterian Church of Wales minister. Then the four Gospels were produced in 1971 as Y Ffordd Newydd (The New Way), which was reprinted in 1972. This included a revised edition of the Gospel of John. On the front cover it included an image of Bethlehem, Carmathenshire. The translation included some images by Annie Vallatton, as used in the English Good News Bible.

The original plan was to produce the whole New Testament in this style. But then this plan was abandoned because the Welsh churches had committed themselves to preparing a new translation of the whole Bible. In fact Y Testament Newydd (the New Testament) part of Beibl Cymraeg Newydd (New Welsh Bible) was printed and launched at Bangor Cathedral on St David's Day in 1975.

Digital Edition

These items were digitised in 2019, from originals in the Bible Society collection at Cambridge. This was done as part of the Bible Societyʼs Welsh Scriptures Digitisation Project. 


British & Foreign Bible Society

FfN EDITOR

Saiba Mais

Outras Versões por British & Foreign Bible Society

A YouVersion utiliza cookies para personalizar sua experiência. Ao utilizar nosso site, você aceita o uso de cookies como descrito em nossa Política de Privacidade