YouVersion Logo
Search Icon

Marc 5

5
5. IESU A'R CLEIFION
Iacháu'r Dyn Gwallgof yn Gerasa (Marc 5:1-20)
1-20Teithiodd Iesu a'r disgyblion dros y môr i wlad y Gerasiniaid. Fel roedd Iesu'n gadael y cwch, daeth dyn ato ag ysbryd aflan ynddo. Roedd y dyn yn byw ymysg y beddau. Ni allai neb ei glymu na'i rwymo, oherwydd bob tro y rhwymwyd ei draed a'i ddwylo llwyddai i'w ryddhau ei hun, ac ni fedrai neb ei drechu. Ddydd a nos byddai'n gweiddi a thorri ei hun gyda cherrig ymysg y beddau ac ar y mynyddoedd. Pan welodd e Iesu o bell, rhedodd ato, ymgrymodd a gwaeddodd, “Beth wyt ti ei eisiau gyda fi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yn enw Duw, paid â'm poenydio.” Dwedodd Iesu, “Ysbryd aflan, dos allan o hwn!” Gofynnodd Iesu iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Tyrfa ydy fy enw i,” meddai, “a hynny am fod cymaint ohonon ni.” Yna, erfyniodd yn daer ar Iesu beidio â gyrru'r ysbrydion aflan allan o'r wlad.
Ar ochr y mynydd, gerllaw, roedd cenfaint fawr o foch yn pori. Erfyniodd yr ysbrydion aflan ar Iesu, “Anfon ni i'r moch, gad i ni fynd i mewn iddyn nhw.” A dyna a wnaeth. Aeth yr ysbrydion aflan allan o'r dyn ac i mewn i'r moch. Yna, rhuthrodd y genfaint o tua dwyfil o foch, dros y dibyn i'r môr, a boddi. Rhedodd bugeiliaid y moch i ffwrdd ac adrodd yr hanes yn y dre a'r wlad gyfagos, a thyrrodd y bobl yno i weld beth oedd wedi digwydd. Daethon nhw at Iesu, a gwelson nhw'r dyn y bu'r ysbryd aflan ynddo yn eistedd wedi'i wisgo ac yn ymddwyn yn gall a synhwyrol a daeth ofn arnyn nhw. Dwedodd y llygaid‐dystion am yr hyn a ddigwyddodd i'r dyn â'r cythreuliaid ac am y moch hefyd. Wedi clywed, erfynion nhw ar Iesu fynd i ffwrdd o'u hardal. Fel roedd Iesu'n dychwelyd i'r cwch, gofynnodd y dyn y bu'r ysbryd aflan ynddo os gallai ddod gydag ef. Atebodd Iesu, “Dos adre at dy deulu a dwed wrthyn nhw gymaint y mae'r Arglwydd wedi'i wneud drosot ti, a'r ffordd mae e wedi tosturio wrthyt.” Aeth y dyn i ffwrdd a dechreuodd gyhoeddi'r holl bethau a wnaeth Iesu drosto; ac roedd pawb yn Decapolis yn synnu.
Merch Jairus, a'r Wraig a Gyffyrddodd â Dillad Iesu (Marc 5:21-43)
21-43Wedi i Iesu a'r disgyblion groesi nôl yn y cwch, casglodd tyrfa fawr ato ar lan y môr. Roedd Jairus, un o arweinwyr y synagog, yn eu plith. Pan welodd e Iesu, syrthiodd o'i flaen ac ymbil arno, “Mae fy merch fach ar fin marw. Tyrd draw gyda fi a dod dy ddwylo arni, er mwyn iddi gael gwella.” Aeth Iesu gydag e.
Roedd tyrfa fawr o gwmpas Iesu, ac yn eu plith roedd gwraig a fu'n dioddef o waedlif ers deuddeng mlynedd. Roedd hi wedi derbyn triniaeth boenus a chostus gan nifer o feddygon ac wedi gwario'r cyfan oedd ganddi, ond heb wella dim. Erbyn hyn roedd ei hiechyd wedi gwaethygu. Roedd hi wedi clywed sôn am Iesu. Felly, daeth o'r tu cefn iddo a chyffwrdd â'i wisg, am ei bod wedi dweud, “Os cyffyrddaf hyd yn oed â'i ddillad, caf fy ngwella.” Yn y man peidiodd ei gwaedlif, a gwyddai ei bod wedi ei gwella. Yr un pryd teimlodd Iesu fod rhyw nerth wedi ei adael. Trodd at y dyrfa a gofyn, “Pwy gyffyrddodd â'm dillad?” Atebodd ei ddisgyblion, “Rwyt ti'n gweld y dyrfa yn dy wasgu, ac eto rwyt ti'n gofyn, ‘Pwy gyffyrddod â mi?’ ” Parhaodd Iesu i chwilio am yr un a gyffyrddodd ag ef. Daeth y wraig ato mewn gofid ac ofn, gan wybod beth oedd wedi digwydd iddi. Syrthiodd o'i flaen a dwedodd yr holl hanes wrtho. Dwedodd Iesu, “Fy merch, dy ffydd sy wedi dy wella di. Dos mewn tangnefedd a bydd iach.”
Tra roedd Iesu'n siarad, daeth rhai o dŷ Jairus a dweud, “Mae dy ferch wedi marw; pam rwyt ti'n poeni'r Athro bellach?” Anwybyddodd Iesu'r neges a dwedodd wrth arweinydd y synagog, “Paid ag ofni; dal i gredu.” Yna, dewisodd e Pedr, Ioan a'i frawd Iago i fynd gydag ef. Daethon nhw at y tŷ a gwelodd Iesu fod cynnwrf yno a rhai'n wylo'n ddi‐baid. Ar ôl mynd i mewn i'r tŷ gofynnodd Iesu, “Pam rydych chi'n wylo? Dydy'r plentyn ddim wedi marw; cysgu mae hi.” Gyda hynny dyma nhw'n dechrau chwerthin am ei ben. Yna anfonodd bawb allan a chymerodd y tad a'r fam, a'r rhai oedd gydag ef, i mewn at y plentyn. Gafaelodd yn ei llaw a dwedodd, “Talitha cŵm”, hynny ydy, “Cod, fy merch i.” Cododd y ferch ar unwaith a dechrau cerdded, oherwydd roedd hi'n ddeuddeng mlwydd oed. Synnodd pawb. Gorchmynnodd Iesu iddyn nhw beidio â sôn am hyn wrth neb, a dwedodd wrthyn nhw am roi bwyd iddi.

Currently Selected:

Marc 5: DAW

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy