YouVersion Logo
Search Icon

Marc 11

11
11. IESU YN DOD I'W DDINAS
Y Daith Fuddugoliaethus i Jerwsalem (Marc 11:1-11)
1-11Pan ddaethon nhw'n agos i Jerwsalem, yn ymyl Bethffage a Bethania a Mynydd yr Olewydd, dwedodd Iesu wrth ddau o'i ddisgyblion, “Ewch i'r pentref sy o'ch blaen chi, ac wrth i chi fynd i mewn iddo, cewch ebol wedi'i rwymo; does neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma. Os bydd rhywun yn gofyn i chi pam rydych chi'n gwneud hynny, dwedwch wrthyn nhw bod y Meistr ei eisiau, ac y bydd yn ei ddychwelyd yn y man.” Aeth y ddau i'r pentref a gweld yr ebol wedi'i glymu wrth ddrws, ac fe'i gollyngon nhw ef. Gofynnodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno pam roedden nhw'n gollwng yr ebol. Atebon nhw fel roedd Iesu wedi dweud, a gadawyd iddyn nhw fynd. Daethon nhw â'r ebol yn ôl a rhoi eu dillad arno, ac eisteddodd Iesu ar ei gefn. Wrth fynd i Jerwsalem, taenodd rhai eu mentyll ac eraill ganghennau deiliog ar y ffordd ac roedd rhai yn gweiddi:
“Hosanna!
Bendigedig ydy'r hwn sy'n dod yn enw'r Arglwydd.
Bendigedig ydy'r deyrnas sy'n dod, teyrnas ein tad Dafydd;
Hosanna yn y goruchaf!”
Pan ddaeth Iesu i mewn i Jerwsalem aeth i'r deml. Edrychodd ar bopeth o'i amgylch, ond gan ei bod yn hwyr, aeth gyda'r Deuddeg i Fethania.
Melltithio'r Ffigysbren (Marc 11:12-14)
12-14Trannoeth, wedi iddyn nhw ddod o Fethania, daeth chwant bwyd ar Iesu. Sylwodd ar ffigysbren deiliog yn y pellter, ac aeth ato i weld os oedd ffrwythau arno i'w bwyta. Gan nad oedd hi'n dymor ffigys doedd dim ar y brigau ond dail. Dwedodd Iesu na chai neb fwyta ffrwyth ohono byth mwy, a chlywodd y disgyblion ei eiriau.
Glanhau'r Deml (Marc 11:15-19)
15-19Aeth Iesu i mewn i'r deml yn Jerwsalem a gyrrodd allan y rhai oedd yn prynu a gwerthu yno. Dymchwelodd fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod. Doedd e ddim yn fodlon i neb gario unrhyw beth drwy'r deml chwaith. Dechreuodd ddysgu yno a dweud, “Ydy hi ddim yn ysgrifenedig:
‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd
ond rydych chi wedi'i wneud yn ogof lladron’?”
Am eu bod yn ei ofni ac yn gweld ei effaith ar y dyrfa, aeth y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion i chwilio am ffordd i'w ladd. Gyda'r hwyr, aeth Iesu a'r disgyblion allan o'r ddinas.
Gwers y Ffigysbren Crin (Marc 11:20-26)
20-26Fore trannoeth, wrth fynd heibio, gwelon nhw fod y ffigysbren wedi gwywo. Cofiodd Pedr yr hyn a ddwedodd Iesu a meddai, “Rabbi, edrych, mae'r ffigysbren roeddet ti wedi'i felltithio wedi gwywo.” Dwedodd Iesu, “Credwch fi, os oes ffydd gyda chi yn Nuw, a phe byddech chi'n dewis dweud wrth y mynydd hwn i godi a thaflu ei hunan i'r môr, fe ddigwyddai hynny. Rydw i'n dweud wrthych chi, beth bynnag a geisiwch mewn gweddi, credwch eich bod wedi'i gael, ac fe'i cewch ef. Os bydd cwyn gyda chi yn erbyn rhywun, maddeuwch iddo wrth i chi weddïo er mwyn i'ch Tad sydd yn y nef faddau eich beiau chi hefyd.”
Amau Awdurdod Iesu (Marc 11:27-33)
27-33Daeth Iesu a'i ddisgyblion eto i Jerwsalem, a phan oedd yn cerdded yn y deml daeth y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid ato a'i holi, “Pa hawl sy gen ti i wneud y pethau hyn?” Dwedodd Iesu, “Rydw i am ofyn cwestiwn i chi, ac os atebwch, yna, dwedaf wrthych drwy ba hawl rydw i'n gwneud y pethau hyn. Beth ydy'ch barn am fedydd Ioan, ydy e o Dduw neu o ddynion?” Dechreuon nhw ddadlau â'i gilydd a dweud, “Os dwedwn wrtho, ‘O'r nef’, bydd e'n dweud, ‘Pam nad ydych chi wedi'i gredu?’ Fedrwn ni ddim dweud, ‘O ddynion’, chwaith.” Roedden nhw'n ofni'r dyrfa am fod pawb yn credu fod Ioan yn wir broffwyd. Felly atebon nhw Iesu a dweud, “Dydyn ni ddim yn gwybod.” Dwedodd Iesu, “Dydw innau ddim am ddweud wrthoch chwithau chwaith pa hawl sy gen i i wneud y pethau hyn.”

Currently Selected:

Marc 11: DAW

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy