YouVersion Logo
Search Icon

Marc 1

1
Pregethu Ioan Fedyddiwr
Mth. 3:1–12; Lc. 3:1–9, 15–17; In. 1:19–28
1Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw#1:1 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan Mab Duw..
2Fel y mae'n ysgrifenedig yn y proffwyd Eseia#1:2 Yn ôl darlleniad arall, yn y proffwydi.:
“Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen
i baratoi dy ffordd.
3Llais un yn galw yn yr anialwch,
‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,
unionwch y llwybrau iddo’ ”—
4ymddangosodd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch, yn#1:4 Yn ôl darlleniad arall, Ioan yn bedyddio yn yr anialwch ac yn. cyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau. 5Ac yr oedd holl wlad Jwdea, a holl drigolion Jerwsalem, yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. 6Yr oedd Ioan wedi ei wisgo mewn dillad o flew camel a gwregys o groen am ei ganol, a locustiaid a mêl gwyllt oedd ei fwyd. 7A dyma'i genadwri: “Y mae un cryfach na mi yn dod ar f'ôl i. Nid wyf fi'n deilwng i blygu a datod carrai ei sandalau ef. 8Â dŵr y bedyddiais i chwi, ond â'r Ysbryd Glân y bydd ef yn eich bedyddio.”
Bedydd Iesu
Mth. 3:13–17; Lc. 3:21–22
9Yn y dyddiau hynny daeth Iesu o Nasareth Galilea, a bedyddiwyd ef yn afon Iorddonen gan Ioan. 10Ac yna, wrth iddo godi allan o'r dŵr, gwelodd y nefoedd yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno. 11A daeth llais o'r nefoedd: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”
Temtiad Iesu
Mth. 4:1–11; Lc. 4:1–13
12Ac yna gyrrodd yr Ysbryd ef ymaith i'r anialwch, 13a bu yn yr anialwch am ddeugain diwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a'r angylion oedd yn gweini arno.
Dechrau'r Weinidogaeth yng Ngalilea
Mth. 4:12–17; Lc. 4:14–15
14Wedi i Ioan gael ei garcharu daeth Iesu i Galilea gan gyhoeddi Efengyl Duw a dweud: 15“Y mae'r amser wedi ei gyflawni ac y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl.”
Galw Pedwar Pysgotwr
Mth. 4:18–22; Lc. 5:1–11
16Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu Simon a'i frawd Andreas yn bwrw rhwyd i'r môr; pysgotwyr oeddent. 17Dywedodd Iesu wrthynt, “Dewch ar fy ôl i, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.” 18A gadawsant eu rhwydau ar unwaith a'i ganlyn ef. 19Wedi iddo fynd ymlaen ychydig gwelodd Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd; yr oeddent wrthi'n cyweirio'r rhwydau yn y cwch. 20Galwodd hwythau ar unwaith, a chan adael eu tad Sebedeus yn y cwch gyda'r gweision, aethant ymaith ar ei ôl ef.
Y Dyn ag Ysbryd Aflan ynddo
Lc. 4:31–37
21Daethant i Gapernaum, ac yna, ar y Saboth, aeth ef i mewn i'r synagog a dechrau dysgu. 22Yr oedd y bobl yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, oherwydd yr oedd yn eu dysgu fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion. 23Yn eu synagog yr oedd dyn ag ysbryd aflan ynddo. Gwaeddodd hwnnw, 24gan ddweud, “Beth sydd a fynni di â ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti—Sanct Duw.” 25Ceryddodd Iesu ef â'r geiriau: “Taw, a dos allan ohono.” 26A chan ei ysgytian a rhoi bloedd uchel, aeth yr ysbryd aflan allan ohono. 27Syfrdanwyd pawb, nes troi a holi ei gilydd, “Beth yw hyn? Dyma ddysgeidiaeth newydd ac iddi awdurdod! Y mae hwn yn gorchymyn hyd yn oed yr ysbrydion aflan, a hwythau'n ufuddhau iddo.” 28Ac aeth y sôn amdano ar led ar unwaith trwy holl gymdogaeth Galilea.
Iacháu Llawer
Mth. 8:14–17; Lc. 4:38–41
29Ac yna, wedi dod allan o'r synagog, aethant i dŷ Simon ac Andreas gydag Iago ac Ioan. 30Ac yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn gorwedd yn wael dan dwymyn. Dywedasant wrtho amdani yn ddi-oed; 31aeth yntau ati a gafael yn ei llaw a'i chodi. Gadawodd y dwymyn hi, a dechreuodd hithau weini arnynt. 32Gyda'r nos, a'r haul wedi machlud, yr oeddent yn dwyn ato yr holl gleifion a'r rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid. 33Ac yr oedd yr holl dref wedi ymgynnull wrth y drws. 34Iachaodd ef lawer oedd yn glaf dan amrywiol afiechydon, a bwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawai i'r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd eu bod yn ei adnabod.
Taith Bregethu
Lc. 4:42–44
35Bore trannoeth yn gynnar iawn, cododd ef ac aeth allan. Aeth ymaith i le unig, ac yno yr oedd yn gweddïo. 36Aeth Simon a'i gymdeithion i chwilio amdano; 37ac wedi dod o hyd iddo dywedasant wrtho, “Y mae pawb yn dy geisio di.” 38Dywedodd yntau wrthynt, “Awn ymlaen i'r trefi nesaf, imi gael pregethu yno hefyd; oherwydd i hynny y deuthum allan.” 39Ac fe aeth drwy holl Galilea gan bregethu yn eu synagogau hwy a bwrw allan gythreuliaid.
Glanhau Dyn Gwahanglwyfus
Mth. 8:1–4; Lc. 5:12–16
40Daeth dyn gwahanglwyfus ato ac erfyn arno ar ei liniau a dweud, “Os mynni, gelli fy nglanhau.” 41A chan dosturio#1:41 Yn ôl darlleniad arall, Ac mewn dicter. estynnodd ef ei law a chyffwrdd ag ef a dweud wrtho, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” 42Ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith, a glanhawyd ef. 43Ac wedi ei rybuddio'n llym gyrrodd Iesu ef ymaith ar ei union, 44a dweud wrtho, “Gwylia na ddywedi ddim wrth neb, ond dos a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad yr hyn a orchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.” 45Ond aeth yntau allan a dechrau rhoi'r hanes i gyd ar goedd a'i daenu ar led, fel na allai Iesu mwyach fynd i mewn yn agored i unrhyw dref. Yr oedd yn aros y tu allan, mewn lleoedd unig, ac eto yr oedd pobl yn dod ato o bob cyfeiriad.

Currently Selected:

Marc 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy